SL(5)192 - Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig a Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol) (Cymru) 2018
Cefndir a Phwrpas
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig a Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol) 2010 (OS 2010/521) ('Gorchymyn 2010') drwy fewnosod cofnod i Ran 1 o'r Atodlen i'r Prif Orchymyn mewn perthynas ag Awdurdod Refeniw Cymru ('WRA'). Pwrpas y gwelliant hwn yw rhagnodi graddfa'r bobl hynny o fewn WRA (ar raddfa 7 y gwasanaethau sifil neu gyfwerth) a all awdurdodi gweithgaredd at ddibenion adrannau 28 a 29 (ar gyfer defnyddio gwyliadwriaeth gyfeiriedig a ffynonellau cudd-wybodaeth ddynol) o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000.
Y weithdrefn
Negyddol
Craffu Technegol
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Craffu ar rinweddau
Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiad technegol i Orchymyn 2010 a fydd yn galluogi person priodol gymwys ar raddfa gwasanaethau sifil gradd 7 neu gyfwerth i roi awdurdodaeth ar gyfer defnyddio gwyliadwriaeth gyfeiriedig a ffynonellau cuddwybodaeth ddynol mewn perthynas â phwerau ehangach WRA ar gyfer ymchwilio i droseddau. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi rhesymeg y polisi nad yw'n ymddangos yn afresymol. Serch hynny, tynnir sylw at y Rheoliadau ar y sail eu bod o bwys cyfreithiol neu wleidyddol neu'n peri materion polisi cyhoeddus sy'n debygol o fod o ddiddordeb i'r Cynulliad. [Rheol Sefydlog 21.3(ii)]
Goblygiadau sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd
Dim.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb gan y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
26 Chwefror 2018